English

Pwy yw Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (WITS)?

Agorodd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (WITS) yn 2009 yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. I ddechrau, roedd WITS yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Heddlu Gwent, Cyngor Sir Caerdydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ond erbyn hyn ni yw prif gyflenwr gweithwyr proffesiynol ieithoedd i dros 30 o gleientiaid yn y sector cyhoeddus.

Mae WITS yn cyrchu cyfieithwyr proffesiynol i’r sector cyhoeddus ledled Cymru mewn dros 150 o ieithoedd gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.

Mae WITS yn sefydliad dielw sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r sector cyhoeddus i gefnogi aelodau o’r cyhoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg / Saesneg fel eu hiaith cyntaf i gael gafael ar wasanaethau. Mae WITS wedi tyfu i drin tua 40,000 o geisiadau bob blwyddyn ar gyfer cymorth dehongli a chyfieithu gan weithio gyda dros 700 o gyfieithwyr hunan-gyflogedig cofrestredig drwy Gymru a’r DU.

Ers dros 10 mlynedd mae WITS wedi darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, sy’n cael eu gyrru’n foesegol i’w holl gwsmeriaid, ac mae’n parhau i weithio’n agos gyda chleientiaid i ddatblygu’r gwasanaeth.

Mae WITS yn darparu ystod lawn o gymorth iaith:

  • Wyneb yn Wyneb
  • O bell (Ffôn neu fideo)
  • Ar alw (Ffôn neu Fideo)
  • Recordio Fideo (BSL)
  • Cyfieithu dogfennau / Prawfddarllen
  • Cyfieithiad braille

“Pob blwyddyn, mae WITS yn derbyn dros 30,000 cais am ddehongliad neu gyfieithiad gan weithiwyr proffesiynol y Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru”

Ein Gwasanaethau Cyfieithu

Rydym yn darparu Gwasanaeth cyfieithu cynhwysfawr, yn gorchuddio ystod eang o gynnwys. Rydym yn wastad ymgymered cyfieithu ysgrifennid am;

  • Llythyron apwyntiad claf
  • Dogfennau meddygol
  • Cynllun cefnogaeth
  • Dogfennau cyfreithiol
  • Datganiadau tystion/ amau
  • Cyfathrebon gyffredinol/ cyfathrebiad cyhoeddus

Rydym yn hefyd darparu’r gwasanaethau cyfieithu chwanegol isod:

  • Recordiau fideo/sain – trawsgrifiad/cyfieithu
  • Cyfieithu Braille
  • Cyfieithu BSL
  • Prawf ddarllen dogfennau

Mae pob cyfieithydd yn gweithio ar ran WITS yn cael ei fetio i isafswm o GDG Manwl ac yn cael cymhwyster lleiaf o feistri mewn cyfieithu. Rydym yn gallu darparu cyfieithu dros 120 ieithoedd, o’r ieithoedd a ddefnyddir yn eang, i’r prinnaf.

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau cyfieithu cysylltwch â ni.

Gwneud Cais am Ddehonglwr

Os oes angen gwasanaethau dehonglwr arnoch ar fyr rybudd, ffoniwch 02920 537 555, ac yna dewiswch opsiwn 1.

Ar gyfer pob math arall o gais am ddehonglwr, cysylltwch â ni, a bydd aelod o’r tîm yn ateb cyn gynted â phosibl.

Ein ffioedd

Mae ein cyfraddau’n amrywio’n dibynnu ar ddyddiad yr apwyntiad ac yn ystod yr apwyntiad. Mae hefyd gyfraddau gwahanol yn dibynnu ar gymwysterau gwahanol y dehonglydd h.y. wedi’i hyfforddi’n lleol neu â Diploma mewn Dehongli i’r Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI).

Os hoffech drafod ein cyfraddau’n fanylach cysylltwch â ni.

Ieithoedd

Gall WITS ddod o hyd i gyfieithwyr o ystod eang o ieithoedd yn amrywio o ieithoedd cyffredin i rai llai, ac mae gennym yr adnoddau i ddarparu ieithoedd sy’n addas i bob angen.

Yr ieithoedd y gofynnir amdanynt fwyaf yw:

  • Arabeg عربي
  • Pwyleg Polski
  • BSL BSL
  • Wcreineg українська
  • Bengalegi বাঙালি
  • Sorani Cwrdaidd کوردی سۆرانی
  • Tsieceg čeština
  • Rwmaneg Românește
  • Mandarin 汉语
  • Farsi اردو

Canllawiau Arfer Da

Efallai yr hoffech weld ein Canllawiau Arfer Da ar Ddehongli a Chyfieithu.

Cliciwch ar y ddogfen bert hnasol i lawrlwytho’r canllaw a hoffech

© Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd